PET(4)-05-11 Papur 15a
P-03-292 Darparu Toiledau Cyhoeddus
Geiriad y ddeiseb
Rydym ni, sydd wedi llofnodi isod, yn galw ar
Gynulliad Cenedlaethol Cymru i ymchwilio i’r effeithiau
posibl ar iechyd a lles cymdeithasol a allai ddeillio o gau
toiledau cyhoeddus, ac yn annog Llywodraeth Cymru i gyhoeddi
canllawiau i awdurdodau lleol i sicrhau darpariaeth ddigonol o
doiledau cyhoeddus.
Cynigwyd gan: Y Cynghorydd Louisa Hughes
Nifer y llofnodion: 430
Gwybodaeth ategol:
Cyflwr toiledau cyhoeddus yng Nghymru
O waith ymchwil a wnaed gan Age Cymru yng Ngwanwyn 2010,
gofynnwyd y cwestiwn canlynol i 434 o bobl hŷn ar draws Cymru, gyda chynrychiolaeth o bob awdurdod
lleol:
‘Pa mor dda yw’r mynediad i doiledau cyhoeddus yn
eich ardal leol chi? A ydynt yn ddiogel ac o safon
uchel?’
- 3 allan o 10 yw’r raddfa a roddwyd i doiledau cyhoeddus
ar gyfartaledd gan 434 o bobl hŷn ar draws Cymru
- Rhoddodd 31 y cant (134 o’r 434) raddfa o 0 allan o 10 i
doiledau cyhoeddus
- Rhoddodd 41 y cant (177 o’r 434) raddfa o 0 neu 1 allan
o 10 i doiledau cyhoeddus
- Rhoddodd 54 y cant o bobl hŷn raddfa o 3 neu lai (allan o 10) i doiledau
cyhoeddus yn eu hardal.
- Rhoddodd 61 y cant o bobl hŷn raddfa o lai na 5 allan o 10 i doiledau cyhoeddus
yn eu hardal.
- Dim ond 3 y cant (12 o bobl o’r 434) roddodd raddfa o 10
allan o 10 i doiledau cyhoeddus yn eu hardal
Mae adroddiad Nowhere to Go ar gau toiledau cyhoeddus
yng Nghymru a gyhoeddwyd gan Help the Aged yng Nghymru ym mis
Ionawr 2009 yn nodi bod:
- 95 y cant o’r rhai a ymatebodd wedi canfod nad
yw eu toiledau cyhoeddus lleol ar agor pan fydd eu
hangen;
- 79 y cant o’r rhai a ymatebodd yn ei chael yn
anodd dod o hyd i doiled cyhoeddus;
- 62 y cant o’r rhai a ymatebodd yn cytuno bod y
diffyg toiledau cyhoeddus yn eu hardal yn eu rhwystro rhag mynd
allan mor aml ag y byddent yn dymuno;
- dywedodd 78 y cant o’r rhai a ymatebodd
i’r arolwg nad yw’r ddarpariaeth o doiledau cyhoeddus
yn eu hardal yn bodloni’u hanghenion;
- caiff 80 y cant o’r rhai a ymatebodd eu
hanesmwytho’n aml gan y diffyg glanweithdra yn eu toiledau
cyhoeddus lleol;
- mae 84 y cant o’r rhai a ymatebodd yn canfod
bod pryderon ynghylch diogelwch yn gwneud toiledau cyhoeddus yn
annymunol;
- teimlai 87 y cant o’r rhai a ymatebodd
i’r arolwg y dylai siopau a busnesau wneud mwy o ymdrech i
ddarparu cyfleusterau toiledau cyhoeddus;
Llywodraeth Cynulliad Cymru: Mae Ffocws Ystadegol ar Oedran yng
Nghymru yn nodi bod 1 o bob 4 person yn 60 oed
neu’n hŷn yn 2009. Fodd bynnag, erbyn 2030, bydd 1 o
bob 3 person yn 60 oed neu’n hŷn.